Newyddion

18/06/2008

Traethodau yn CADAIR

O'r flwyddyn academaidd 2008/9 ymlaen, caiff pob traethawd ymchwil a gynhyrchir ym Mhrifysgol Aberystwyth ei archifo yn CADAIR yn ogystal ag fel copïau papur yn y llyfrgell, ac hefyd pob traethawd gradd uwch drwy gwrs sy'n derby anrhydeddau neu sydd ar bynciau Cymraeg, Hanes Cymru neu Astudiaethau Celtaidd. Bu cyfarfod y Pwyllgor Rheolau a Rheoliadau heddiw i weithredu penderfyniadau'r Bwrdd Graddau Uwch (15/01/2008) a'r Pwyllgor Materion Academaidd (27/02/2008).

17/06/2008

Lansiad swyddogol CADAIR

Lansiwyd cadwrfa ymchwil ar-lein Prifysgol Aberystwyth, CADAIR, gan y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Aled Jones. Mae hyn yn dilyn cyfarfod y Cyfarwyddwyr Ymchwil ddoe, a gadeiriwyd gan y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Lyn Pykett, lle cymeradwywyd defnydd CADAIR i hyrwyddo proffeil ymchwil y Brifysgol ar lein.

16/06/2008

Diweddariad meddalwedd a dyluniad newydd

Mae'r meddalwedd DSpace mae CADAIR yn ei ddefnyddio wedi ei ddiweddaru o fersiwn 1.4 i 1.5. Bydd hyn yn gwella profiad y defnyddiwr ac ymhlith ei nodweddion yw'r gallu i allforio dalen-nodau i'r gwasanaethau Gwe 2.0 Facebook, del.icio.us, StumbleUpon, Digg a reddit. Rydym wedi uwchraddio dyluniad gweledol y rhyngwyneb i olwg fwy modern a syml.