Newyddion

01/08/2008

Swyddogaeth allforio i EndNote wedi ei hychwanegu i CADAIR

Gellir bellach allforio manylion eitemau yn CADAIR yn syth i EndNote drwy bwyso ar y botwm o dan bob eitem yn y gadwrfa.

26/06/2008

500 eitem yn CADAIR

Aeth nifer yr eitemau yn CADAIR dros 500 heddiw, y nifer mwyaf yn y 12 sefydliad yn Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymru. Mae Prifysgol Aberystwyth yn y rheng flaen o ran ddatblygiadau cadwrfaol, ac mae ganddi reolwr cadwrfa llawn-amser.

25/06/2008

Prosiect Lord of The Rings yn CADAIR

Mae'r prosiect ymchwil Lord of the Rings a'i gronfa ddata bellach ar gael yn CADAIR. Bu'n astudiaeth uchelgeisiol o'r ymatebion i'r ffilm wedi ei seilio ar y llyfr gan Tolkien, a arweinwyd gan yr Athro Martin Barker yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

18/06/2008

Traethodau yn CADAIR

O'r flwyddyn academaidd 2008/9 ymlaen, caiff pob traethawd ymchwil a gynhyrchir ym Mhrifysgol Aberystwyth ei archifo yn CADAIR yn ogystal ag fel copïau papur yn y llyfrgell, ac hefyd pob traethawd gradd uwch drwy gwrs sy'n derby anrhydeddau neu sydd ar bynciau Cymraeg, Hanes Cymru neu Astudiaethau Celtaidd. Bu cyfarfod y Pwyllgor Rheolau a Rheoliadau heddiw i weithredu penderfyniadau'r Bwrdd Graddau Uwch (15/01/2008) a'r Pwyllgor Materion Academaidd (27/02/2008).

17/06/2008

Lansiad swyddogol CADAIR

Lansiwyd cadwrfa ymchwil ar-lein Prifysgol Aberystwyth, CADAIR, gan y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Aled Jones. Mae hyn yn dilyn cyfarfod y Cyfarwyddwyr Ymchwil ddoe, a gadeiriwyd gan y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Lyn Pykett, lle cymeradwywyd defnydd CADAIR i hyrwyddo proffeil ymchwil y Brifysgol ar lein.

16/06/2008

Diweddariad meddalwedd a dyluniad newydd

Mae'r meddalwedd DSpace mae CADAIR yn ei ddefnyddio wedi ei ddiweddaru o fersiwn 1.4 i 1.5. Bydd hyn yn gwella profiad y defnyddiwr ac ymhlith ei nodweddion yw'r gallu i allforio dalen-nodau i'r gwasanaethau Gwe 2.0 Facebook, del.icio.us, StumbleUpon, Digg a reddit. Rydym wedi uwchraddio dyluniad gweledol y rhyngwyneb i olwg fwy modern a syml.

04/06/2008

Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymru

Cynhaliodd Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymru gyfarfod yng Nghynhadledd Gregynog, yn sgîl ffrwd cadwrfeydd llwyddiannus lle rhoddwyd cyflwyniadau ac astudiaethau achos o ddatblygiadau o blith y 12 sefydliad Cymreig, gan gynnwys gan Helen Thomas o UWIC (Ymchwil UWIC), Dr Talat Chaudhri o Brifysgol Aberystwyth (CADAIR) a Dr Douglas Houston o Brifysgol Morgannwg (Cadwrfa Ymchwil Morgannwg). Mae bellach gan bob un o'r sefydliadau gadwrfa sy'n gweithio ond mae Aberystwyth yn dal i arwain datblygiadau yng Nghymru ac mae ganddi'r nifer uchaf o eitemau wedi eu harchifo.

01/04/2008

Ymchwil ar lein yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth

Mae'r sefydliad ymchwil rhagorol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), wedi ei greu o gyfuniad Sefydliad y Gwyddorau Biolegol (IBS) a Sefydliad y Gwyddorau Gwledig â Sefydliad Ymchwil Tir Glas a'r Amgylchedd (IGER) ym Mhlas Gogerddan. Mae ymdrechion ohoni yn ystod 2008 i ddatblygu darpariaeth ymchwil y sefydliad newydd ar lein ac i gyd-gysylltu y gronfa ddata ymchwil sy'n bod ers tro yn IGER â CADAIR.

08/02/2008

Mae'r prosiect prawf llwyddianus yn troi yn wasanaeth llawn

CADAIR yw cadwrfa ymchwil ar-lein Prifysgol Aberystwyth. Mae'n arddangosfa ar gyfer ymchwil flaengar y Brifysgol wedi'i hadolygu gan gymheiriaid yn y Celfyddydau, yn y Dyniaethau ac yn y Gwyddorau, ac yn archif ar-lein ar gyfer allbwn ymchwil ei hacademyddion.

Gellir archifo rhan fwyaf y mathau o allbwn ymchwil, gan gynnwys data a llawer mathau eraill o wrthrychau digidol. Mae'n hawdd adneuo, a gellwch chi gysylltu â ni i gael cymorth llawn.

A wyddoch chi fod gan y Cynghorau Ymchwil bolisï bellach sy'n mynnu eich bod yn adneuo cynhyrchion ymchwil mewn cadwrfa fel CADAIR neu'r cyfryw?