http://cadair.aber.ac.uk
Cysylltu: cadair@aber.ac.uk
Newyddion
01/08/2008
Swyddogaeth allforio i EndNote wedi ei hychwanegu i CADAIR
Gellir bellach allforio manylion eitemau yn CADAIR yn syth i EndNote drwy bwyso ar y botwm o dan bob eitem yn y gadwrfa.
26/06/2008
500 eitem yn CADAIR
Aeth nifer yr eitemau yn CADAIR dros 500 heddiw, y nifer mwyaf yn y 12 sefydliad yn Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymru. Mae Prifysgol Aberystwyth yn y rheng flaen o ran ddatblygiadau cadwrfaol, ac mae ganddi reolwr cadwrfa llawn-amser.
tagiau:
cynnwys,
Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymru,
WRN
25/06/2008
Prosiect Lord of The Rings yn CADAIR
Mae'r prosiect ymchwil Lord of the Rings a'i gronfa ddata bellach ar gael yn CADAIR. Bu'n astudiaeth uchelgeisiol o'r ymatebion i'r ffilm wedi ei seilio ar y llyfr gan Tolkien, a arweinwyd gan yr Athro Martin Barker yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
tagiau:
ffilm,
Lord of the Rings,
Martin Barker,
Tolkien
18/06/2008
Traethodau yn CADAIR
O'r flwyddyn academaidd 2008/9 ymlaen, caiff pob traethawd ymchwil a gynhyrchir ym Mhrifysgol Aberystwyth ei archifo yn CADAIR yn ogystal ag fel copïau papur yn y llyfrgell, ac hefyd pob traethawd gradd uwch drwy gwrs sy'n derby anrhydeddau neu sydd ar bynciau Cymraeg, Hanes Cymru neu Astudiaethau Celtaidd. Bu cyfarfod y Pwyllgor Rheolau a Rheoliadau heddiw i weithredu penderfyniadau'r Bwrdd Graddau Uwch (15/01/2008) a'r Pwyllgor Materion Academaidd (27/02/2008).
17/06/2008
Lansiad swyddogol CADAIR
Lansiwyd cadwrfa ymchwil ar-lein Prifysgol Aberystwyth, CADAIR, gan y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Aled Jones. Mae hyn yn dilyn cyfarfod y Cyfarwyddwyr Ymchwil ddoe, a gadeiriwyd gan y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Lyn Pykett, lle cymeradwywyd defnydd CADAIR i hyrwyddo proffeil ymchwil y Brifysgol ar lein.
16/06/2008
Diweddariad meddalwedd a dyluniad newydd
Mae'r meddalwedd DSpace mae CADAIR yn ei ddefnyddio wedi ei ddiweddaru o fersiwn 1.4 i 1.5. Bydd hyn yn gwella profiad y defnyddiwr ac ymhlith ei nodweddion yw'r gallu i allforio dalen-nodau i'r gwasanaethau Gwe 2.0 Facebook, del.icio.us, StumbleUpon, Digg a reddit. Rydym wedi uwchraddio dyluniad gweledol y rhyngwyneb i olwg fwy modern a syml.
tagiau:
dalen-nodau,
del.icio.us,
Digg,
diweddariad,
DSpace,
dyluniad,
Facebook,
Gwe 2.0,
reddit,
rhyngwyneb,
StumbleUpon
04/06/2008
Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymru
Cynhaliodd Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymru gyfarfod yng Nghynhadledd Gregynog, yn sgîl ffrwd cadwrfeydd llwyddiannus lle rhoddwyd cyflwyniadau ac astudiaethau achos o ddatblygiadau o blith y 12 sefydliad Cymreig, gan gynnwys gan Helen Thomas o UWIC (Ymchwil UWIC), Dr Talat Chaudhri o Brifysgol Aberystwyth (CADAIR) a Dr Douglas Houston o Brifysgol Morgannwg (Cadwrfa Ymchwil Morgannwg). Mae bellach gan bob un o'r sefydliadau gadwrfa sy'n gweithio ond mae Aberystwyth yn dal i arwain datblygiadau yng Nghymru ac mae ganddi'r nifer uchaf o eitemau wedi eu harchifo.
Subscribe to:
Comments (Atom)